Croeso i Ysgol Mynach
Welcome to Ysgol Mynach
Croeso
Mae Ysgol Gynradd Mynach yn gwasanaethu pentref bychan Pontarfynach a’r ardal gyfagos, sydd wedi ei leoli ym Mynyddoedd Cambria, tua 12 milltir i’r Dwyrain o Aberystwyth. Fe’i cynhelir gan awdurdod lleol Sir Geredigion. Cymraeg yw prif gyfrwng gwaith a bywyd yr ysgol ond anelir at sicrhau bod y disgyblion yn gwbl ddwyieithog erbyn iddynt drosglwyddo i’r sector uwchradd.
Mae 37 o ddisgyblion ar y gofrestr rhwng 4 ac 11 oed, wedi eu trefnu mewn dau ddosbarth. Mae’r Pennaeth hefyd yn arwain ac yn rheoli dwy ysgol gyfagos arall, sef Pontrhydfendigaid a Syr John Rhys.
Mae lles, hapusrwydd ac addysg y plant yn ganolog i bob penderfyniad a wneir yn Ysgol Gynradd Mynach. Ceisiwn ddarparu cwricwlwm cyfoethog, cytbwys ac ymarferol sy’n hybu chwilfrydedd naturiol pob plentyn beth bynnag eu lliw, cenedl, diwylliant neu dras.
Ymfalchïwn yn safonau cyrhaeddiad uchel yr ysgolion gan gynnwys yr ystod eang o weithgareddau. Mae’r Llywodraethwyr yn dangos diddordeb ac ymrwymiad i fywyd yr ysgol ac maent yn ymweld yn rheolaidd. Credwn mai drwy gydweithrediad agos rhwng yr ysgol a’r cartref y mae sicrhau’r gorau.
Rydym yn gwerthfawrogi ein disgyblion ac yn credu y dylai eu hamser yn yr ysgol fod yn werthfawr ac yn foddhaus.
Welcome
Ysgol Gynradd Mynach serves the small village of Pontarfynach and the surrounding area, situated in the Cambrian Mountains, approximately 12 miles east of Aberystwyth. The school is maintained by Ceredigion County Council. Welsh is the main language of teaching and everyday life at the school, with a strong commitment to ensuring that pupils become fully bilingual by the time they transfer to secondary education.
There are 37 pupils on the school roll, aged between 4 and 11, organised into two classes. The Headteacher also leads and manages two neighbouring schools, Pontrhydfendigaid and Syr John Rhys.
The wellbeing, happiness and education of our children are at the heart of every decision made at Ysgol Mynach. We aim to provide a rich, balanced and practical curriculum that nurtures every child’s natural curiosity, regardless of their colour, nationality, culture or background.
We take great pride in the high standards of achievement across the school, as well as the wide range of activities and experiences we provide. Our Governors demonstrate a strong interest in and commitment to school life and visit the school regularly. We believe that the best outcomes for our children are achieved through close partnership and collaboration between school and home.
We value every one of our pupils and believe that their time at school should be meaningful, enjoyable and rewarding.
Ein Gweledigaeth
Our Vision
Dysg Dawn Daioni
Learning • Talent • Virtue
Gweledigaeth
Diffinnir ein gweledigaeth gan arwyddair yr ysgol Dysg Dawn Daioni.
Ein nod ydy darparu amgylchedd hapus, positif, diogel a chyfeillgar, er mwyn sicrhau addysg o’r radd flaenaf, sy’n cynnig profiadau heriol, diddorol ac eang a fydd yn arwain unigolion i gyrraedd eu llawn botensial.
Vision
Our vision is defined by the school motto, Dysg Dawn Daioni — Learning Talent Virtue.
Our aim is to provide a happy, positive, safe and welcoming environment that delivers an excellent standard of education. We offer challenging, engaging and varied experiences that inspire individuals to develop their talents, build confidence and reach their full potential.
Dysgwyr uchelgeisiol, galluog
Ambitious, capable learners
Yn barod i ddysgu drwy gydol eu hoes.
Ready to learn throughout their lives.
Cyfranwyr mentrus, creadigol
Enterprising, creative contributors
Yn barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith.
Ready to play a full part in life and work.
Dinasyddion egwyddorol, gwybodus
Ethical, informed citizens
Dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd.
Ethical, informed citizens of Wales and the wider world.
Unigolion iach, hyderus
Healthy, confident individuals
Yn barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
Ready to lead fulfilling lives and achieve their aspirations as valued members of society.
Ein Gwerthoedd
Our Values
Mae ein gwerthoedd yn ganolog i fywyd Ysgol Mynach.
Our values are central to life at Ysgol Mynach.
Dymunwn i bawb fod yn hapus a chyffrous yng nghwmni ei gilydd mewn awyrgylch ofalgar, garedig a chynhwyso.
We want everyone to be happy and excited in each other’s company, within a caring, kind and inclusive environment.
Ceisiwn annog y plant i barchu ac i ofalu am y byd o’u cwmpas ac i ddatblygu fel dinasyddion sydd yn gwybod y gwahaniaeth rhwng da a drwg, a chydnabod cyfraniadau pawb beth bynnag eu lliw, crefydd, cred neu hil.
We encourage the children to respect and care for the world around them and to develop as citizens who understand the difference between right and wrong, while recognising and valuing the contributions of everyone, regardless of their colour, religion, beliefs or race.
Ceisiwn annog parch tuag at Gymreictod; ein hiaith, diwylliant a’n treftadaeth ein hunain yn ogystal ag ieithoedd a diwylliannau eraill.
We seek to encourage respect for Welsh identity, including our own language, culture and heritage, as well as for other languages and cultures.
Gwnawn ddewisiadau doeth er mwyn sicrhau iechyd a lles y disgyblion a staff gan ddathlu llwyddiant a llawenydd.
We make wise choices to promote the health and wellbeing of our pupils and staff, while celebrating success and joy.
Ymdrechwn ein gorau ym mhob maes gan ddyfalbarhau yn academaidd neu’n allgyrsiol er mwyn cyrraedd y nod.
We strive to do our very best in every area, persevering academically and through extracurricular activities in order to achieve our goals.
Gwrandawn a gweithredwn ar lais y disgybl ym mhob agwedd o fywyd yr ysgol er mwyn datblygu awyrgylch cadarnhaol a diogel i bawb.
We listen to and act upon the voice of our pupils in every aspect of school life, in order to develop a positive and safe environment for everyone.
Ceisiwn feithrin diwylliant lle mae pob disgybl yn teimlo ei fod yn perthyn, yn cael ei werthfawrogi ac yn rhan weithredol o’n cymuned ysgol a’r gymuned ehangach.
We aim to foster a culture where every pupil feels that they belong, are valued, and are an active part of our school community and the wider community.
Dewch i ymweld â ni
Come and visit us
Os hoffech ymweld â’r ysgol neu os oes gennych gwestiynau ychwanegol, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni’n uniongyrchol.
If you would like to visit the school or have any further questions, please do not hesitate to contact us directly.